Ein hymrwymiad i Hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, ni waeth beth yw’r dechnoleg na’r gallu.

Rydym wrthi’n gweithio i wella hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan ac, wrth wneud hynny, rydym yn glynu wrth lawer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael.

Canllawiau a safonau

Mae'r wefan hon yn ymdrechu i gydymffurfio â lefel Dwbl-A y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.0 Consortiwm y We Fyd Eang (W3C).

Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut mae gwneud cynnwys ar y we yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hyn yn helpu i wneud y we yn fwy hwylus i bawb.

Mae’r safle hwn wedi cael ei adeiladu gan ddefnyddio cod sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS. Mae'r safle'n ymddangos yn gywir mewn porwyr cyfredol ac mae defnyddio cod HTML/CSS sy'n cydymffurfio â safonau yn golygu y bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd yn ei ddangos yn gywir.

Eithriadau

Er ein bod yn ymdrechu i lynu wrth y canllawiau a’r safonau a dderbynnir ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny ym mhob rhan o’r wefan.

Gwybodaeth gyswllt

Rydym yn chwilio’n barhaus am atebion a fydd yn sicrhau bod pob rhan o’r safle yn cyrraedd yr un lefel o hygyrchedd cyffredinol ar y we. Yn y cyfamser, os cewch unrhyw drafferthion wrth fynd ar y wefan, mae croeso i chi gysylltu â ni.