GWYBODAETH BWYSIG

Mae’r wybodaeth ganlynol yn bwysig a dylech ei darllen yn ofalus. Mae’n egluro natur y berthynas a’r ffordd y bydd rhai pethau’n gweithredu yn ystod y berthynas honno.

Yn y ddogfen hon (yn yr adran hon ac yn y ddogfen drwyddi draw) mae’r termau:

‘APCOA’, ‘Ni’ ac ‘Ein’ yn cyfeirio at APCOA Parking (UK) Limited. Darperir ein manylion corfforaethol yn y troedyn, gan gynnwys ein swyddfa gofrestredig, ond os bydd angen i Chi gysylltu â Ni, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

APCOA Parking UK Limited, PO Box 1010, Uxbridge UB8 2XW. Ffôn: 0345 301 151; E-bost: General.Enquiries@apcoa.com.

Mae ‘Chi’ ac ‘Eich’ yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio’r Gwasanaethau ScanPay.

Mae ScanPay yn ffordd o dalu am eich arhosiad mewn maes parcio heb orfod defnyddio arian parod neu ddull talu arall.

PREIFATRWYDD a DEFNYDDIO GWYBODAETH BERSONOL

Rydych chi'n cadarnhau i ni y bydd yr holl wybodaeth a roddwch i ni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau parcio yn gywir ac yn gyflawn, ac yn benodol mai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru fel ceidwad y cerbyd neu sydd wedi’i awdurdodi i ddefnyddio a chofrestru unrhyw gerbyd (gan gynnwys ei farc cofrestru) at ddibenion darparu gwasanaethau parcio.

Pan fyddwch Chi’n mynd i mewn i faes parcio a thra ydych Chi'n ei ddefnyddio, mae APCOA yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth benodol (data) sy’n ymwneud â’ch ‘Sesiwn Parcio’ gan gynnwys eich amseroedd cyrraedd a gadael, eich taliad ar gyfer y cyfnod hwnnw, a gall gynnwys y man rydych chi’n parcio ynddo a’r ffordd rydych chi’n parcio eich cerbyd.  Gwneir hyn er mwyn i ni allu sicrhau eich bod yn defnyddio maes parcio yn unol â’r amodau sy’n berthnasol i’ch Sesiwn Parcio, sy’n cynnwys y telerau a ddangosir yn y maes parcio. Os ydych chi’n defnyddio’r maes parcio mewn unrhyw ffordd ac eithrio yn unol â’r amodau hynny, gallwn ddefnyddio’r data hwnnw i roi Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) i chi fel cam gorfodi am y tor-amod hwnnw.

Gall ein defnydd o’r data gynnwys cael enw a chyfeiriad y ceidwad cofrestredig gan y DVLA er mwyn anfon Hysbysiad at y Ceidwad, unrhyw ohebiaeth gysylltiedig, yn ogystal ag unrhyw hysbysiadau pellach os daw’r PCN yn daladwy a/neu os yw'n dal heb ei dalu.

Gallwn hefyd ddefnyddio’r data rydyn Ni'n ei gasglu ar gyfer rheoli meysydd parcio, fel adrodd ar drosiant cerbydau ac ymweliadau rheolaidd, er mwyn gwella profiad y cwsmer. Gall y data a gasglwn gynnwys delweddau o gerbydau sy’n defnyddio maes parcio a/neu farc cofrestru eu cerbyd (VRM). Gellir casglu hyn drwy gamerâu ANPR a/neu oruchwylwyr ar y safle, yn ogystal â thrwy beiriannau talu neu derfynellau, neu o ganlyniad i Chi’n defnyddio’r gwasanaeth ScanPay.

Gall APCOA rannu data o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen i gefnogi’r dibenion a nodir uchod, a gall drosglwyddo data i’r heddlu os oes gennym reswm dros gredu y gallai trosedd fod wedi digwydd. Os yw’n berthnasol ac yn briodol, gall APCOA hefyd, o bryd i’w gilydd, rannu’r data y mae wedi’i gasglu â chleient sydd wedi’i benodi i reoli’r maes parcio.

Wrth gasglu’r data y cyfeirir ato uchod, APCOA yw’r rheolydd data. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am eich hawliau fel gwrthrych data, gallwch weld ein ‘Polisi Preifatrwydd’ drwy glicio ar y ddolen hon. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn dpo@apcoa.com neu gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 301 1151.

Gellir cynyddu’r pris a godir arnoch wrth ddefnyddio gwasanaethau ScanPay er mwyn cynnwys ffi hwylustod. Gwiriwch y telerau ac amodau diweddaraf cyn cwblhau unrhyw drafodyn ScanPay.

TELERAU CYFFREDINOL – MAES PARCIO SCANPAY APCOA

1.) Cytundeb

2.) Newidiadau i’r telerau

3.) Archebu

4.) Talu

5.) Cyfyngu ar ein Hatebolrwydd

6) Pris

7.) Hawl i ganslo

8.) Cwynion

9.) Cyfrifoldebau

10.) Force majeure

11.) Y lleoliad a'r gyfraith berthnasol

12.) Rheoliadau eraill

 

 

 

  1. CYTUNDEB

1.1.        Bydd defnyddio’r rhaglen https://www.scanpay.apcoa.co.uk (ScanPay) yn arwain at gytundeb rhyngoch Chi ac APCOA Parking (UK) Limited.

1.2.        Mae ScanPay yn darparu dull talu o bell ar gyfer gwasanaethau parcio. Nid yw’n gontract ar gyfer gwasanaethau parcio. Rydych chi'n dal i ymrwymo i gontract parcio gyda'r darparwr gwasanaethau parcio yn y lleoliad lle rydych chi'n parcio (y "maes parcio") yn unol â'r telerau a ddangosir yno.

1.3.        Pan fyddwch chi’n parcio yn y maes parcio, rydych chi’n derbyn Ein cynnig o le parcio ac yn gwneud hynny yn unol â’r Telerau ac Amodau sy’n cael eu harddangos. Rydych chi'n gwneud hyn drwy barcio ar y safle. Nid oes angen derbyniad na chytundeb pellach mewn perthynas â’r contract sy’n rheoli’r Sesiwn Barcio.

1.4.        Mae pob defnydd o ScanPay yn gontract ar wahân rhyngom Ni a Chi, a wneir pan fyddwn yn derbyn taliad drwy eich dull talu. Ein rhwymedigaethau o dan y contract hwnnw yw gwneud y taliad hwnnw i’r maes parcio. Nid oes gennym unrhyw rwymedigaethau cytundebol eraill i Chi. Er enghraifft, nid ydym yn addo y bydd ein gwasanaeth ar gael ar unrhyw adeg nac mewn unrhyw le penodol, nac ychwaith y byddwn yn derbyn eich taliad ar unrhyw achlysur penodol.

1.5.        Nid yw defnyddio ScanPay yn gwarantu lle parcio i Chi ac nid oes lle parcio wedi’i gadw ar eich cyfer nac wedi’i ddyrannu i chi. Mae parcio ar sail y cyntaf i’r felin.

1.6.        Gellir cysylltu ag APCOA Parking UK yn: APCOA Parking UK Limited, PO Box 1010, Uxbridge UB8 2XW. Ffôn: 0345 301 151; E-bost: General.Enquiries@apcoa.com .

1.7.        Rydych Chi'n cadarnhau i ni y bydd yr holl wybodaeth a roddwch i Ni mewn cysylltiad â'ch defnydd o wasanaethau ScanPay yn gywir ac yn gyflawn, ac yn benodol mai Chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru fel ceidwad y cerbyd neu sydd wedi’i awdurdodi i ddefnyddio a chofrestru unrhyw gerbyd (gan gynnwys ei farc cofrestru) at ddibenion defnyddio gwasanaethau ScanPay.

  1. NEWIDIADAU I’R TELERAU

2.1.        Rydym bob amser yn ceisio gwella Ein gwasanaethau ScanPay ac felly mae’n bosibl y bydd y telerau hyn yn newid o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw ddefnydd a wnewch o’n gwasanaethau ScanPay yn unol â'r telerau sydd mewn grym bryd hynny. Os ydych chi’n ddefnyddiwr cofrestredig, byddwn yn rhoi gwybod i Chi ymlaen llaw am unrhyw newidiadau. Os ydych Chi’n defnyddio ScanPay fel unrhyw beth oni bai am ddefnyddiwr cofrestredig, dylech wirio Ein telerau presennol cyn i Chi wneud taliad. Diweddarwyd y telerau hyn ddiwethaf ym mis Ionawr 2023.

  1. ARCHEBU

3.1.        Gallwch ddefnyddio ScanPay i dalu am barcio ar-lein yn https:///www.scanpay.apcoa.co.uk . Dim ond ar gyfer un car ar y tro y gallwch dalu am barcio.

3.2.        Pan fyddwch Chi'n talu am Sesiwn Barcio, rhaid i Chi ddewis hyd Eich arhosiad. Bydd hyn yn pennu’r swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu am y Sesiwn Barcio honno. Bydd unrhyw ffi hwylustod yn daladwy ar ben y swm hwn.

3.3.        Ar ôl cwblhau’r broses i wneud Eich taliad, byddwch yn cael opsiwn naill ai i ofyn am e-bost yn cadarnhau’r symiau rydych Chi wedi’u talu neu i argraffu copi o’ch derbynneb. Fel arall, gallwch fynd yn ôl i wefan ScanPay unrhyw bryd ar ôl i’ch Sesiwn Barcio ddod i ben a chael derbynneb. Bydd angen i Chi fynd i adran derbynebau'r wefan a nodi’r VRN a dyddiad y Sesiwn Barcio, ac yna bydd gennych Chi'r opsiwn i argraffu’r dderbynneb neu gael copi wedi’i anfon i gyfeiriad e-bost y byddwch Chi’n ei roi bryd hynny.

3.4.        Ni ystyrir eich bod wedi talu am eich Sesiwn Barcio nes i Chi dderbyn cadarnhad o'r taliad ac oni bai am hynny.

3.5.        Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y taliad ar gyfer eich Sesiwn Barcio wedi'i gadarnhau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol ei fod wedi'i gadarnhau dim ond am fod eich taliad wedi'i ddebydu'n llwyddiannus o'ch cyfrif.

  1. TALU

4.1.        Bydd y ffi parcio a godir arnoch am barcio yn y Maes Parcio ScanPay APCOA dan sylw yn dibynnu ar yr amser (er enghraifft, nifer yr oriau/diwrnodau) a ddewiswyd. Bydd y swm yn cael ei ddangos pan ofynnir i chi wneud eich taliad.

4.2.        Yn ogystal â’r ffi parcio, efallai y codir ffi hwylustod arnoch hefyd. Pennir a godir tâl o’r fath ai peidio yn ddibynnol ar leoliad y maes parcio. Efallai na fydd y ffi hwylustod bob amser yn cael ei harddangos ar arwyddion mewn maes parcio perthnasol. Fodd bynnag, bydd yn ymddangos ar y dudalen dalu cyn i Chi dalu gyda’r dull o'ch dewis.

4.3.        I dalu gyda cherdyn credyd/debyd, bydd gofyn i Chi roi rhif Eich cerdyn, y dyddiad dod i ben a’r cod diogelwch. Gellir talu hefyd drwy ddefnyddio Apple Pay a / neu Google Pay.

4.4.        Os byddwch Chi’n penderfynu gadael y maes parcio cyn i’r cyfnod parcio ddod i ben, ni fyddwch Chi’n cael ad-daliad.

4.5.        Rydyn Ni'n cadw’r hawl i wrthod unrhyw ddull talu er y byddwn Ni fel arfer yn derbyn y prif gardiau credyd a debyd. Gallwch wirio’r dull rydych Chi wedi’i ddewis ymlaen llaw ar wefan https:///www.scanpay.apcoa.co.uk.

4.6.        Rydych chi’n Ein hawdurdodi Ni i godi tâl ar eich dull talu os ydych Chi’n defnyddio ScanPay i dalu am Sesiwn Barcio.

4.7.        Mae’r holl ffioedd yn cynnwys TAW.

4.8.        Os byddwch Chi’n gadael ardal y maes parcio ar ôl i’ch Sesiwn Barcio ddod i ben ac nad oes taliad yn cael ei wneud am unrhyw gyfnod ychwanegol a dreulir yn y maes parcio am ba reswm bynnag, yna bydd hyn yn torri Ein hamodau parcio sydd wedi'u harddangos yn y maes parcio dan sylw, oni bai fod mater yn codi o dan gymal 10. Efallai y byddwch yn gorfod talu am unrhyw amser ychwanegol a dreuliwyd yn y maes parcio ac, os na fyddwch Chi’n gwneud hynny (neu os na fydd y taliad ychwanegol yn cael ei wneud o fewn y cyfnod gras a ganiateir sy’n berthnasol yn y maes parcio), efallai y byddwch Chi’n cael Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) y byddwch Chi’n atebol am ei dalu.

  1. CYFYNGU AR EIN HATEBOLRWYDD

5.1.        Caiff pob cerbyd ei adael ar risg y person sy'n parcio'r cerbyd yn y maes parcio.

5.2.        Ein hatebolrwydd mwyaf i Chi am unrhyw hawliad sy’n codi mewn cysylltiad â’ch defnydd Chi o wasanaethau ScanPay fydd cost y cynnyrch parcio a brynir gennych Chi gan ddefnyddio gwasanaethau ScanPay.

5.3.        Mae ein gwasanaethau ScanPay yn darparu dull talu yn unig, ac rydych Chi’n cytuno na fyddwn yn atebol i Chi am unrhyw golled neu ddifrod y gallech ei ddioddef drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio yn y maes parcio.

5.4.        Ni fyddwn yn atebol i Chi am unrhyw fethiant yn Ein gwasanaethau a achosir gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth – er enghraifft, methiant mewn rhan o’r system fancio sy’n ei hatal rhag derbyn Eich taliad.

5.5.        Nid ydym yn gwneud unrhyw warantau na sylwadau mewn perthynas â gwasanaethau ScanPay ac eithrio'r hyn a nodir yn benodol yn y Telerau Cyffredinol hyn. Nid ydym yn gwneud unrhyw warant na sylw y bydd gweithrediad Ein gwefan nac unrhyw ran arall o’n gwasanaethau yn ddi-dor nac yn ddi-wall ac ni fyddwn yn atebol i Chi mewn unrhyw ffordd am ganlyniadau unrhyw ymyriadau neu wallau.

5.6.        I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, rydych Chi’n cytuno na fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, damweiniol neu anuniongyrchol, am unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy’n deillio o’ch defnydd Chi o’r gwasanaethau ScanPay neu mewn unrhyw ffordd sy’n gysylltiedig â hynny, gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod am unrhyw golled mewn prosiectau busnes, colli elw, colli preifatrwydd, canlyniadau eich defnydd a oedd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, neu golledion canlyniadol eraill sy’n deillio o gontract, o gamwedd neu o ddefnyddio, neu fethu â defnyddio, gwasanaethau ScanPay fel arall.

5.7.        Ni fydd dim yn y Telerau hyn yn cyfyngu ar Ein hatebolrwydd am y canlynol:

5.7.1.    camliwio twyllodrus;

5.7.2.    marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i’n hesgeulustod ni neu esgeulustod ein gweithwyr; neu

5.7.3.    Eich hawliau statudol (gan gynnwys hawl i dderbyn gwasanaeth o safon resymol).

  1. PRIS

6.1.        Dyfynnir y pris mewn GBP (£) gan gynnwys TAW.

6.2.        Gellir cynyddu’r pris er mwyn cynnwys ffi hwylustod. Gwiriwch y telerau ac amodau diweddaraf cyn cwblhau unrhyw drafodyn ScanPay.

6.3.        Gall prisiau newid. Mae’r tariff presennol ar gyfer y maes parcio sy’n cael ei ddefnyddio gennych Chi mewn cysylltiad â’r trafodiad ScanPay yn cael ei arddangos yn y maes parcio hwnnw.

  1. HAWL I GANSLO

7.1.        Ni cheir ad-daliad am barcio.

  1. CWYNION

8.1.        Dylid cyfeirio pob cwyn at APCOA Parking UK Limited, PO Box 1010, Uxbridge UB8 2XW. Ffôn: 0345 301 151;  E-bost: ukcustomercomplaints@apcoa.com

  1. CYFRIFOLDEB

9.1.        Caiff pob cerbyd ei adael ar risg y person sy'n parcio'r cerbyd yn y maes parcio. Nid yw APCOA yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddamweiniau, lladrad, difrod mewn perthynas â phobl, cerbydau, cyfarpar ac eiddo yn y car. Nid yw APCOA chwaith yn gyfrifol am iawndal damweiniol a chanlyniadol.

  1. FORCE MAJEURE

10.1.     Os bydd oedi wrth ddarparu gwasanaeth ScanPay neu os caiff ei atal o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl nad oes gan APCOA reolaeth drostynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ryfel, symudiad, gweithred terfysgaeth (gan gynnwys bygythiad o’r fath), tân, streic, boicot, blocâd a chloi allan, epidemig a phandemig (gan gynnwys ymysg staff mewn Maes Parcio lle derbynnir ScanPay fel arfer), neu drychineb naturiol, bydd darpariaeth y gwasanaeth yn cael ei ohirio nes caiff yr amgylchiadau annisgwyl ei datrys ac ni fydd y naill barti yn atebol i'r llall dan amgylchiadau o’r fath.

10.2.     Ni ellir dal APCOA yn gyfrifol mewn achosion o force majeure.

  1. Y LLEOLIAD A'R GYFRAITH BERTHNASOL

11.1.     Ni chewch Chi neilltuo unrhyw gontract a wneir rhyngom Ni a Chi o dan y telerau hyn i unrhyw berson arall, ond gallwn, yn ôl ein disgresiwn, neilltuo Ein hawliau o dan unrhyw gontract o’r fath i drydydd parti.

11.2.     Os yw, neu os daw, unrhyw ddarpariaeth yn y telerau hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu’n annilys, ni fydd yn effeithio ar gyfreithlondeb a dilysrwydd y darpariaethau eraill.

11.3.     Dehonglir y telerau hyn yn unol â Chyfraith Lloegr. Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw hawliad sy’n deillio o unrhyw gontract a wneir o dan y telerau hyn.

  1. RHEOLIADAU ERAILL

 12.1.     Gall APCOA adolygu’r telerau ac amodau uchod ar gyfer parcio yn unrhyw Faes Parcio ScanPay APCOA drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Gall hyn gynnwys cyflwyno tâl hwylustod lle nad oedd un yn daladwy o’r blaen. Gwiriwch y telerau ac amodau diweddaraf cyn cwblhau unrhyw drafodyn ScanPay.