• Mae’n fuddiant dilys i APCOA dderbyn archebion ar gyfer defnyddio’r Maes Parcio, yn ogystal â rheoleiddio parcio, gan y rhai sy’n defnyddio’r maes parcio yn unol ag archeb o’r fath. Hefyd, rydych yn ymrwymo i gontract bob tro y byddwch yn archebu i ddefnyddio’r maes parcio, yn ogystal â phob tro y byddwch yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys eich caniatâd i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu fel rhan o’r contractau a wnewch i ddefnyddio’r maes parcio.
  • Wrth i chi archebu, cyrraedd a defnyddio’r maes parcio, mae APCOA yn casglu ac yn prosesu data penodol. Defnyddir y data hwn gan APCOA i sicrhau y cydymffurfir â’r archeb a wneir gennych chi a’r amodau sy’n berthnasol i’ch archeb (sy’n cynnwys y telerau a nodir ar y wefan hon a’r rhai a ddangosir yn y maes parcio). Gellir hefyd ddefnyddio’r data i orfodi’r rhain lle bo angen. Gall hyn gynnwys cael enw a chyfeiriad y ceidwad cofrestredig gan y DVLA er mwyn anfon Hysbysiad at y Ceidwad, unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ac unrhyw hysbysiadau pellach os daw’r tâl parcio yn daladwy a/neu os yw'n dal heb ei dalu.
  • Bydd APCOA hefyd yn defnyddio’r data y mae’n ei gasglu ar gyfer rheoli meysydd parcio, fel adrodd ar drosiant cerbydau ac ymweliadau rheolaidd er mwyn gwella profiad y cwsmer.
  • Gall y data y bydd APCOA yn ei gasglu gynnwys delweddau o gerbydau sy’n defnyddio'r maes parcio a/neu farc cofrestru eu cerbyd. Gellir casglu hyn drwy gamerâu ANPR a/neu oruchwylwyr ar y safle, yn ogystal â thrwy beiriannau talu neu derfynellau, a’ch defnydd chi o'r wefan hon.
  • Gall APCOA rannu data o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen i gefnogi’r dibenion a nodir uchod, a gall drosglwyddo data i’r heddlu os oes gennym reswm dros gredu y gallai trosedd fod wedi digwydd. Os yw’n berthnasol ac yn briodol, gall APCOA hefyd, o bryd i’w gilydd, rannu’r data y mae wedi’i gasglu â chleient sydd wedi’i benodi i reoli’r Maes Parcio.
  • Wrth gasglu’r data a nodir uchod, APCOA Parking (UK) Limited yw’r rheolydd data. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am eich hawliau fel gwrthrych data, gallwch weld ein Polisi Preifatrwydd’ drwy glicio ar y ddolen hon. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn dpo@apcoa.com neu gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 319 1016.